Diolch am gynnig y cyfle i awgrymu meysydd y gallai'r pwyllgor ystyried fel ymchwiliadau ar gyfer ei rhaglen waith. Rydym yn falch iawn bod pwyllgor gyda chyfrifoldeb penodol o graffu ar bolisi iaith y Llywodraeth.
Ymysg y materion y gallai'r pwyllgor ystyried y mae'r canlynol:

     i.        Addysg Gymraeg - Addysg Ail Iaith ac Adroddiad yr Athro Sioned Davies

Mae’r Llywodraeth ei hunan yn credu bod sicrhau bod niferoedd sylweddol uwch yn dod allan o'r gyfundrefn addysg yn rhugl eu Cymraeg yn gwbl ganolog i'w hymdrechion i gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg. Mae bellach yn dair blynedd ers i'r Athro Sioned Davies gyhoeddi ei hadroddiad a alwodd am newidiadau radical oherwydd y safonau isel iawn o ran dysgu Cymraeg fel ail iaith. Byddai'n ddefnyddiol pe byddai'r pwyllgor yn craffu'n fanwl ar waith y Llywodraeth o ran gweithredu'r argymhellion. Ymhellach, mae cwestiynau i'w gofyn yn ogystal am Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg newydd y Llywodraeth gan fuodd yr un blaenorol yn weithredol ar gyfer y cyfnod 2010-15.

   ii.        Strategaeth Iaith newydd y Llywodraeth

Mae'r Llywodraeth yn cynnal ymgynghoriad ar hyn o bryd am ei gweledigaeth i greu miliwn o siaradwyr Cymraeg, byddai'n briodol i'r pwyllgor gynnig ei sylwadau i'r Llywodraeth. Mae lle hefyd i wneud asesiad ynghylch perfformiad y Llywodraeth o ran gweithredu'r Strategaeth Iaith bresennol sy'n dod i ben ddechrau'r flwyddyn nesaf er mwyn dysgu gwersi. Byddai'n gyfle hefyd i asesu record y Llywodraeth o ran gweithredu argymhellion y nifer sylweddol o adroddiadau a'u comisiynwyd a'u cyhoeddwyd ganddi ers canlyniadau Cyfrifiad 2011.

  iii.        Buddsoddi yn y Gymraeg – effaith y gyllideb

Mae angen craffu'n fanwl ar y tanwariant sylweddol ar y Gymraeg yng nghyllidebau prif-ffrwd y Llywodraeth, megis prentisiaethau ac addysg i oedolion yn y gymuned.  Yn ogystal, dros y blynyddoedd diweddar, gwnaed toriadau difrifol iawn i nifer o brosiectau pwysig i hyrwyddo'r Gymraeg. Mae cysylltiad rhwng buddsoddiad a chyflwr iaith, a ni roddir digon o sylw i'r materion hyn ym mhrosesau llunio cyllideb Llywodraeth Cymru.

  iv.        Ehangu Defnydd y Gymraeg ar blatfformau digidol ac yn y maes darlledu

Mae twf aruthrol wedi bod mewn gwasanaethau Saesneg ers degawdau ond toriadau i wasanaethau Cymraeg. Mae'r dewis o sianeli teledu Saesneg ar gael yng ngwledydd Prydain wedi tyfu ymhell dros 450 ac mae hefyd dros 600 o orsafoedd radio yn darlledu yn Saesneg. Er y twf hwn dros y blynyddoedd diwethaf, dim ond un sianel teledu ac un orsaf radio Cymraeg sydd o hyd, y lleiafswm sy'n cael ei ganiatáu o dan gytundeb Ewropeaidd ar ieithoedd llai. Mae lle i'r Cynulliad a Llywodraeth Cymru arwain mwy yn y maes a byddai ymchwiliad gan y pwyllgor yn y ffordd o wneud hynny.

    v.        Effaith y Gyfundrefn Gynllunio ar y Gymraeg

Cafodd Deddf Cynllunio (Cymru) 2015 ei basio'r llynedd gyda newidiadau o bwys i'r Gymraeg. Mae disgwyl i'r Llywodraeth gyhoeddi ei Nodyn Cyngor Technegol (TAN) 20 newydd yn ddiweddarach eleni. Yn ogystal, ceir cwynion cynyddol ynghylch effaith ddiffyg tai fforddiadwy ar y Gymraeg a'r diffyg enwau lleoedd Cymraeg ar dai a datblygiadau newydd. Byddai'n amserol i'r pwyllgor edrych ar y maes yma er mwyn adolygu effaith y newidiadau cyfreithiol a pholisi yn y maes.

  vi.        Economi a'r Iaith

Rydym wedi ysgrifennu at y pwyllgor economi gan awgrymu eu bod yn edrych at y maes hwn. Credwn fod modd ystyried y mater hwn gan hefyd adolygu gweithredu'r Llywodraeth yn sgil adroddiad a gyhoeddwyd gan weithgor a gadeiriwyd gan Elin Rhys o'r cwmni Telesgop. Amcangyfrifir bod y Fasgeg gwerth 4.2% o GDP economi Cymuned Ymreolaethol Gwlad y Basg, a gallai Cymru elwa'n llawer iawn mwy yn economaidd o'n hiaith genedlaethol unigryw.

 vii.        Cymraeg i Oedolion

Mae pryderon cynyddol am effaith y newidiadau yn y maes ar staff a darpariaeth ers sefydlu'r endid cenedlaethol newydd ynghyd â thoriadau difrifol a wnaed i'r sector gan Lywodraeth Cymru. Mae'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Cenedlaethol wedi cyhoeddi strategaeth newydd a gallai'r pwyllgor edrych ar y maes yn sgil y newidiadau diweddar hyn.

viii.        Cryfhau Mesur y Gymraeg 2011 gan gynnwys y gyfundrefn Safonau a chynnwys gweddill y sector breifat

Gan fod y Llywodraeth newydd wedi cyhoeddi eu bod nhw’n bwriadu cryfhau Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011, byddai'n synhwyrol i'r Cynulliad edrych ar waith craffu cyn-ddeddfu yn ogystal â'r broses ffurfiol o ystyried deddfwriaeth arfaethedig y Llywodraeth.

Yn sicr, mae llawer iawn o feysydd y gallai'r pwyllgor eu hystyried. Hyderwn y byddwch yn manteisio ar y cyfle euraid sydd gennych i graffu ar waith y Llywodraeth a chyfrannu at sicrhau twf y Gymraeg dros y blynyddoedd i ddod.

Edrychwn ymlaen at gydweithio gyda'r pwyllgor wrth iddo ymwneud â'r gwaith pwysig sydd o'i flaen dros y blynyddoedd nesaf.